Cyflwynwyd eleni misoedd heriol -
yn gadael pobl heb gartrefi
ac wrth i’r byd geisio ail-gydio,
daeth dieithryn i gystadlu.
Tawelwch estron ar y strydoedd
ond ysbytai yn gorlifo,
rhai’n gweithredu’n anwybodus,
rhai yn ofn a’r dagrau’n llifo.
Lladdwyd y diniwed heb gywilydd,
cymrir mantais o’r rhai gwan
wrth profi cryfder i’r uchafswn
a trwy hynny yn rhoi cam.
Arwyr iechyd sydd yn ymladd -
yn aberthu eu bywydau
ac er gwaethaf cryfder gweddi,
ceuir drysau dyfodol rhai.
Yn wahanol i’m cymdeithas,
nid arfwisg yw’n hunaniaeth.
Bu enwogion yn dioddef
a rhai eraill adre’n gaeth.
Er ein bod ni’n byw mewn gofid,
rhaid i bawb ddarganfod ffydd
a sylweddoli pa mor werthfawr
yw bob eiliad, munud, dydd.
Gwnawn amddiffyn rhag y gelyn
trwy ddilyn cyfarwyddyd clir
i aros adref am y tro
er ei fod yn teimlo’n hir.
Rhyw ddydd fe curwn y dieuthryn
a fydd e’n hanes yn ei hun.
Fe werthfawrogwn ni ein gilydd
a gwnawn ni gyd ail-fyw fel un.